19 ac yna saith o wartheg eraill truenus a nychlyd a thenau iawn, yn dod ar eu hôl; ni welais rai cynddrwg yn holl dir yr Aifft.
20 Bwytaodd y gwartheg tenau a nychlyd y saith o wartheg tewion cyntaf,
21 ond er iddynt eu bwyta nid oedd ôl hynny arnynt, gan eu bod mor denau â chynt. Yna deffroais.
22 Gwelais hefyd yn fy mreuddwyd saith o dywysennau llawn a da yn tyfu ar un gwelltyn;
23 a dyma saith dywysen fain a thenau, wedi eu deifio gan wynt y dwyrain, yn tarddu ar eu hôl.
24 Llyncodd y tywysennau tenau y saith dywysen dda. Adroddais hyn wrth y dewiniaid, ond ni allai neb ei egluro i mi.”
25 Yna dywedodd Joseff wrth Pharo, “Un ystyr sydd i freuddwyd Pharo; y mae Duw wedi mynegi i Pharo yr hyn y mae am ei wneud.