2 A dyma saith o wartheg porthiannus a thew yn esgyn o'r afon, a phori yn y weirglodd;
3 ac yna saith o wartheg eraill, nychlyd a thenau, yn esgyn ar eu hôl ac yn sefyll ar lan yr afon yn ymyl y gwartheg eraill.
4 Bwytaodd y gwartheg nychlyd a thenau y saith buwch borthiannus a thew. Yna deffrôdd Pharo.
5 Aeth yn ôl i gysgu a breuddwydio eilwaith, a gwelodd saith dywysen fras a da yn tyfu ar un gwelltyn;
6 yna saith dywysen denau, wedi eu deifio gan wynt y dwyrain, yn tarddu ar eu hôl.
7 Llyncodd y tywysennau tenau y saith dywysen fras a llawn. Yna deffrôdd Pharo a deall mai breuddwyd ydoedd.
8 Pan ddaeth y bore, yr oedd wedi cynhyrfu ac anfonodd am holl ddewiniaid a doethion yr Aifft; dywedodd Pharo ei freuddwyd wrthynt, ond ni allai neb ei dehongli iddo.