35 Dylent gasglu holl fwyd y blynyddoedd da sydd ar ddod, a thrwy awdurdod Pharo, dylent gasglu ŷd yn ymborth i'w gadw yn y dinasoedd,
36 fel y bydd y bwyd ynghadw i'r wlad dros y saith mlynedd o newyn sydd i fod yng ngwlad yr Aifft, rhag i'r wlad gael ei difetha gan y newyn.”
37 Bu'r cyngor yn dderbyniol gan Pharo a'i holl weision.
38 A dywedodd Pharo wrth ei weision, “A fedrwn ni gael gŵr arall fel hwn ag ysbryd Duw ynddo?”
39 Felly dywedodd Pharo wrth Joseff, “Am i Dduw roi gwybod hyn oll i ti, nid oes neb mor ddeallus a doeth â thi;
40 ti fydd dros fy nhŷ, a bydd fy holl bobl yn ufudd i ti; yr orsedd yn unig a'm gwna i yn fwy na thi.”
41 Yna dywedodd Pharo wrth Joseff, “Dyma fi wedi dy osod di'n ben ar holl wlad yr Aifft,”