39 Felly dywedodd Pharo wrth Joseff, “Am i Dduw roi gwybod hyn oll i ti, nid oes neb mor ddeallus a doeth â thi;
40 ti fydd dros fy nhŷ, a bydd fy holl bobl yn ufudd i ti; yr orsedd yn unig a'm gwna i yn fwy na thi.”
41 Yna dywedodd Pharo wrth Joseff, “Dyma fi wedi dy osod di'n ben ar holl wlad yr Aifft,”
42 a thynnodd ei fodrwy oddi ar ei law a'i gosod ar law Joseff, a gwisgo amdano ddillad o liain main, a rhoi cadwyn aur am ei wddf.
43 Parodd iddo deithio yn ei ail gerbyd, gyda rhai i weiddi o'i flaen, “Plygwch lin.” Felly gosododd Pharo ef dros holl wlad yr Aifft.
44 A dywedodd Pharo wrth Joseff, “Myfi yw Pharo, ond heb dy ganiatâd di nid yw neb i godi na llaw na throed trwy holl wlad yr Aifft.”
45 Enwodd Pharo ef Saffnath-panea, a rhoddodd yn wraig iddo Asnath, merch Potiffera offeiriad On. Yna aeth Joseff allan yn bennaeth dros wlad yr Aifft.