47 Yn ystod y saith mlynedd o lawnder cnydiodd y ddaear yn doreithiog,
48 a chasglodd yntau yr holl fwyd a gaed yng ngwlad yr Aifft yn ystod y saith mlynedd, a chrynhoi ymborth yn y dinasoedd. Casglodd i bob dinas fwyd y meysydd o'i hamgylch.
49 Felly pentyrrodd Joseff ŷd fel tywod y môr, nes peidio â chadw cyfrif, am na ellid ei fesur.
50 Cyn dyfod blwyddyn y newyn, ganwyd i Joseff ddau fab o Asnath, merch Potiffera offeiriad On.
51 Enwodd Joseff ei gyntafanedig Manasse—“Am fod Duw wedi peri imi anghofio fy holl gyni a holl dylwyth fy nhad.”
52 Enwodd yr ail Effraim—“Am fod Duw wedi fy ngwneud i'n ffrwythlon yng ngwlad fy ngorthrymder.”
53 Darfu'r saith mlynedd o lawnder yng ngwlad yr Aifft;