53 Darfu'r saith mlynedd o lawnder yng ngwlad yr Aifft;
54 a dechreuodd y saith mlynedd o newyn, fel yr oedd Joseff wedi dweud. Bu newyn yn yr holl wledydd, ond yr oedd bwyd yn holl wlad yr Aifft.
55 A phan ddaeth newyn ar holl wlad yr Aifft, galwodd y bobl ar Pharo am fwyd. Dywedodd Pharo wrth yr holl Eifftiaid, “Ewch at Joseff, a gwnewch yr hyn a ddywed ef wrthych.”
56 Ac fel yr oedd y newyn yn ymledu dros wyneb yr holl dir, agorodd Joseff yr holl ystordai a gwerthodd ŷd i'r Eifftiaid, oherwydd yr oedd y newyn yn drwm yng ngwlad yr Aifft.
57 Daeth pobl o'r holl wledydd hefyd i'r Aifft at Joseff i brynu, oherwydd yr oedd y newyn yn drwm drwy'r byd i gyd.