1 Pan ddeallodd Jacob fod ŷd yn yr Aifft, dywedodd wrth ei feibion, “Pam yr ydych yn edrych ar eich gilydd?
2 Clywais fod ŷd i'w gael yn yr Aifft; ewch i lawr yno a phrynwch i ni, er mwyn inni gael byw ac nid marw.”
3 Felly aeth deg o frodyr Joseff i brynu ŷd yn yr Aifft;
4 ond nid anfonodd Jacob Benjamin, brawd Joseff, gyda'i frodyr, rhag ofn i niwed ddigwydd iddo.