15 Fel hyn y rhoddir prawf arnoch: cyn wired â bod Pharo'n fyw, ni chewch ymadael oni ddaw eich brawd ieuengaf yma.
16 Anfonwch un o'ch plith i gyrchu eich brawd, tra byddwch chwi yng ngharchar; felly y profir eich geiriau, i wybod a ydynt yn wir. Os nad ydynt, cyn wired â bod Pharo'n fyw, ysbiwyr ydych.”
17 A rhoddodd hwy i gyd yng ngharchar am dridiau.
18 Ar y trydydd diwrnod dywedodd Joseff wrthynt, “Fel hyn y gwnewch er mwyn ichwi gael byw, oherwydd yr wyf yn ofni Duw:
19 os ydych yn wŷr gonest, cadwer un brawd yng ngharchar, a chewch chwithau gludo ŷd at angen eich teuluoedd,
20 a dod â'ch brawd ieuengaf ataf. Felly y ceir gweld eich bod yn dweud y gwir, ac ni byddwch farw.” Dyna a wnaed.
21 Yna dywedasant wrth ei gilydd, “Yn wir, yr ydym yn haeddu cosb o achos ein brawd, am inni weld ei ofid ef pan oedd yn ymbil arnom, a gwrthod gwrando; dyna pam y daeth y gofid hwn arnom.”