22 Dywedodd Reuben, “Oni ddywedais wrthych, ‘Peidiwch â gwneud cam â'r bachgen’? Ond ni wrandawsoch, ac yn awr rhaid ateb am ei waed.”
23 Ni wyddent fod Joseff yn eu deall, am fod cyfieithydd rhyngddynt.
24 Troes yntau oddi wrthynt i wylo. Yna daeth yn ôl a siarad â hwy, a chymerodd Simeon o'u mysg a'i rwymo o flaen eu llygaid.
25 Gorchmynnodd Joseff lenwi eu sachau ag ŷd, a rhoi arian pob un yn ôl yn ei sach, a rhoi bwyd iddynt at y daith. Felly y gwnaed iddynt.
26 Yna codasant yr ŷd ar eu hasynnod a mynd oddi yno.
27 Pan oedd un yn agor ei sach yn y llety, i roi bwyd i'w asyn, gwelodd ei arian yng ngenau'r sach,
28 a dywedodd wrth ei frodyr, “Rhoddwyd fy arian yn ôl; y maent yma yn fy sach.” Yna daeth ofn arnynt a throesant yn grynedig at ei gilydd, a dweud, “Beth yw hyn y mae Duw wedi ei wneud i ni?”