27 Pan oedd un yn agor ei sach yn y llety, i roi bwyd i'w asyn, gwelodd ei arian yng ngenau'r sach,
28 a dywedodd wrth ei frodyr, “Rhoddwyd fy arian yn ôl; y maent yma yn fy sach.” Yna daeth ofn arnynt a throesant yn grynedig at ei gilydd, a dweud, “Beth yw hyn y mae Duw wedi ei wneud i ni?”
29 Pan ddaethant at eu tad Jacob yng ngwlad Canaan, adroddasant eu holl helynt wrtho, a dweud,
30 “Siaradodd y gŵr oedd yn arglwydd y wlad yn hallt wrthym, a chymryd mai ysbiwyr oeddem.
31 Dywedasom ninnau wrtho, ‘Gwŷr gonest ydym ni, ac nid ysbiwyr.
32 Yr oeddem yn ddeuddeg brawd, meibion ein tad; bu farw un, ac y mae'r ieuengaf eto gyda'n tad yng ngwlad Canaan.’
33 Yna dywedodd arglwydd y wlad wrthym, ‘Fel hyn y caf wybod eich bod yn onest: gadewch un o'ch brodyr gyda mi, a chymerwch ŷd at angen eich teuluoedd, ac ewch ymaith.