6 Joseff oedd yr arolygwr dros y wlad, ac ef oedd yn gwerthu ŷd i bawb. A daeth brodyr Joseff ac ymgrymu iddo i'r llawr.
7 Pan welodd Joseff ei frodyr, adnabu hwy, ond ymddygodd fel dieithryn a siarad yn hallt wrthynt. Gofynnodd iddynt, “O ble y daethoch?” Ac atebasant, “O wlad Canaan i brynu bwyd.”
8 Yr oedd Joseff wedi adnabod ei frodyr, ond nid oeddent hwy'n ei adnabod ef.
9 Cofiodd Joseff y breuddwydion a gafodd amdanynt, a dywedodd wrthynt, “Ysbiwyr ydych; yr ydych wedi dod i weld mannau gwan y wlad.”
10 Dywedasant hwythau wrtho, “Na, arglwydd, y mae dy weision wedi dod i brynu bwyd.
11 Meibion un gŵr ydym ni i gyd, a dynion gonest; nid ysbiwyr yw dy weision.”
12 Meddai yntau wrthynt, “Na, yr ydych wedi dod i weld mannau gwan y wlad.”