9 Cofiodd Joseff y breuddwydion a gafodd amdanynt, a dywedodd wrthynt, “Ysbiwyr ydych; yr ydych wedi dod i weld mannau gwan y wlad.”
10 Dywedasant hwythau wrtho, “Na, arglwydd, y mae dy weision wedi dod i brynu bwyd.
11 Meibion un gŵr ydym ni i gyd, a dynion gonest; nid ysbiwyr yw dy weision.”
12 Meddai yntau wrthynt, “Na, yr ydych wedi dod i weld mannau gwan y wlad.”
13 Atebasant, “Deuddeg brawd oedd dy weision, meibion un gŵr yng ngwlad Canaan; y mae'r ieuengaf eto gyda'n tad, ond nid yw'r llall yn fyw.”
14 Ond dywedodd Joseff wrthynt, “Y gwir amdani yw mai ysbiwyr ydych.
15 Fel hyn y rhoddir prawf arnoch: cyn wired â bod Pharo'n fyw, ni chewch ymadael oni ddaw eich brawd ieuengaf yma.