1 Trymhaodd y newyn yn y wlad.
2 Ac wedi iddynt fwyta'r ŷd a ddygwyd ganddynt o'r Aifft, dywedodd eu tad wrthynt, “Ewch yn ôl i brynu ychydig o fwyd i ni.”
3 Ond atebodd Jwda, “Rhybuddiodd y dyn ni'n ddifrifol gan ddweud, ‘Ni chewch weld fy wyneb os na fydd eich brawd gyda chwi.’
4 Os anfoni ein brawd gyda ni, fe awn i brynu bwyd i ti;
5 ond os nad anfoni ef, nid awn ni, oherwydd dywedodd y dyn wrthym, ‘Ni chewch weld fy wyneb os na fydd eich brawd gyda chwi.’ ”
6 Dywedodd Israel, “Pam y gwnaethoch ddrwg i mi trwy ddweud wrth y dyn fod gennych frawd arall?”