14 a rhodded Duw Hollalluog drugaredd i chwi gerbron y dyn, er mwyn iddo ollwng yn rhydd eich brawd arall a Benjamin. Os gwneir fi'n ddi-blant, derbyniaf hynny.”
15 Felly cymerodd y dynion yr anrheg a dwbl yr arian, a Benjamin gyda hwy, ac aethant ar eu taith i lawr i'r Aifft, a sefyll gerbron Joseff.
16 Pan welodd Joseff fod Benjamin gyda hwy, dywedodd wrth swyddog ei dŷ, “Dos â'r dynion i'r tŷ, a lladd anifail a gwna wledd, oherwydd bydd y dynion yn bwyta gyda mi ganol dydd.”
17 Gwnaeth y swyddog fel y gorchmynnodd Joseff iddo, a daeth â'r dynion i dŷ Joseff.
18 Ond yr oedd ar y dynion ofn pan gymerwyd hwy i dŷ Joseff, ac meddent, “Y maent wedi dod â ni i mewn yma oherwydd yr arian a roddwyd yn ôl yn ein sachau y tro cyntaf. Byddant yn rhuthro ac yn ymosod arnom, a'n gwneud yn gaethion, a chipio ein hasynnod.”
19 Aethant at swyddog tŷ Joseff a siarad ag ef wrth ddrws y tŷ,
20 a dweud, “Ein harglwydd, daethom i lawr o'r blaen i brynu bwyd;