2 Ac wedi iddynt fwyta'r ŷd a ddygwyd ganddynt o'r Aifft, dywedodd eu tad wrthynt, “Ewch yn ôl i brynu ychydig o fwyd i ni.”
3 Ond atebodd Jwda, “Rhybuddiodd y dyn ni'n ddifrifol gan ddweud, ‘Ni chewch weld fy wyneb os na fydd eich brawd gyda chwi.’
4 Os anfoni ein brawd gyda ni, fe awn i brynu bwyd i ti;
5 ond os nad anfoni ef, nid awn ni, oherwydd dywedodd y dyn wrthym, ‘Ni chewch weld fy wyneb os na fydd eich brawd gyda chwi.’ ”
6 Dywedodd Israel, “Pam y gwnaethoch ddrwg i mi trwy ddweud wrth y dyn fod gennych frawd arall?”
7 Atebasant hwythau, “Holodd y dyn ni'n fanwl amdanom ein hunain a'n teulu, a gofyn, ‘A yw eich tad eto'n fyw? A oes gennych frawd arall?’ Wrth inni ei ateb, a allem ni ddirnad y dywedai ef, ‘Dewch â'ch brawd yma’?”
8 Dywedodd Jwda wrth ei dad Israel, “Anfon y bachgen gyda mi, inni gael codi a mynd, er mwyn inni fyw ac nid marw, nyni a thithau a'n plant hefyd.