20 a dweud, “Ein harglwydd, daethom i lawr o'r blaen i brynu bwyd;
21 wrth inni agor ein sachau yn y llety yr oedd arian pob un yn llawn yng ngenau ei sach. Yr ydym wedi dod â hwy'n ôl gyda ni,
22 ac y mae gennym arian eraill hefyd i brynu bwyd. Ni wyddom pwy a osododd ein harian yn ein sachau.”
23 Atebodd yntau, “Byddwch dawel, peidiwch ag ofni; eich Duw a Duw eich tad a guddiodd drysor i chwi yn eich sachau; derbyniais i eich arian.” Yna daeth â Simeon allan atynt.
24 Wedi i'r swyddog fynd â'r dynion i dŷ Joseff, rhoddodd ddŵr iddynt i olchi eu traed, a rhoddodd fwyd i'w hasynnod.
25 Gwnaethant eu hanrheg yn barod erbyn i Joseff ddod ganol dydd, am iddynt glywed mai yno y byddent yn cael bwyd.
26 Pan ddaeth Joseff i'r tŷ, dygasant ato yr anrheg oedd ganddynt, ac ymgrymu i'r llawr o'i flaen.