23 Atebodd yntau, “Byddwch dawel, peidiwch ag ofni; eich Duw a Duw eich tad a guddiodd drysor i chwi yn eich sachau; derbyniais i eich arian.” Yna daeth â Simeon allan atynt.
24 Wedi i'r swyddog fynd â'r dynion i dŷ Joseff, rhoddodd ddŵr iddynt i olchi eu traed, a rhoddodd fwyd i'w hasynnod.
25 Gwnaethant eu hanrheg yn barod erbyn i Joseff ddod ganol dydd, am iddynt glywed mai yno y byddent yn cael bwyd.
26 Pan ddaeth Joseff i'r tŷ, dygasant ato yr anrheg oedd ganddynt, ac ymgrymu i'r llawr o'i flaen.
27 Holodd yntau hwy am eu hiechyd, a gofyn, “A yw eich tad yn iawn, yr hen ŵr y buoch yn sôn amdano? A yw'n dal yn fyw?”
28 Atebasant, “Y mae dy was, ein tad, yn fyw ac yn iach.” A phlygasant eu pennau ac ymgrymu.
29 Cododd yntau ei olwg a gweld ei frawd Benjamin, mab ei fam ef ei hun, a gofynnodd, “Ai dyma eich brawd ieuengaf, y buoch yn sôn amdano?” A dywedodd wrtho, “Bydded Duw yn rasol wrthyt, fy mab.”