13 Meibion Issachar: Tola, Pufa, Job a Simron.
14 Meibion Sabulon: Sered, Elon a Jahleel.
15 Dyna'r meibion a ddygodd Lea i Jacob yn Padan Aram, ac yr oedd hefyd ei ferch Dina. Tri deg a thri oedd rhif ei feibion a'i ferched.
16 Meibion Gad: Siffion, Haggi, Suni, Esbon, Eri, Arodi ac Areli.
17 Meibion Aser: Imna, Isfa, Isfi, Bereia, a'u chwaer Sera; a meibion Bereia, Heber a Malchiel.
18 Dyna feibion Silpa, a roddodd Laban i Lea ei ferch, un ar bymtheg i gyd, wedi eu geni i Jacob.
19 Meibion Rachel gwraig Jacob: Joseff a Benjamin.