17 Meibion Aser: Imna, Isfa, Isfi, Bereia, a'u chwaer Sera; a meibion Bereia, Heber a Malchiel.
18 Dyna feibion Silpa, a roddodd Laban i Lea ei ferch, un ar bymtheg i gyd, wedi eu geni i Jacob.
19 Meibion Rachel gwraig Jacob: Joseff a Benjamin.
20 Ac i Joseff yn yr Aifft ganwyd Manasse ac Effraim, meibion Asnath, merch Potiffera offeiriad On.
21 Meibion Benjamin: Bela, Becher, Asbel, Gera, Naaman, Ehi, Ros, Muppim, Huppim ac Ard.
22 Dyna feibion Rachel, pedwar ar ddeg i gyd, wedi eu geni i Jacob.
23 Mab Dan: Husim.