24 Meibion Nafftali: Jahseel, Guni, Jeser a Silem.
25 Dyma feibion Bilha, a roddodd Laban i Rachel ei ferch, saith i gyd, wedi eu geni i Jacob.
26 Chwe deg a chwech oedd nifer tylwyth Jacob ei hun, sef pawb a ddaeth gydag ef i'r Aifft, heb gyfrif gwragedd ei feibion.
27 Dau oedd nifer meibion Joseff a anwyd iddo yn yr Aifft; felly saith deg oedd nifer cyflawn teulu Jacob a ddaeth i'r Aifft.
28 Anfonwyd Jwda ar y blaen at Joseff i gael cyfarwyddyd am y ffordd i Gosen, ac felly daethant i wlad Gosen.
29 Gwnaeth Joseff ei gerbyd yn barod, ac aeth i gyfarfod â'i dad Israel yn Gosen, a phan ddaeth i'w ŵydd, rhoes ei freichiau am ei wddf gan wylo'n hidl.
30 Ac meddai Israel wrth Joseff, “Yr wyf yn barod i farw yn awr, wedi gweld dy wyneb a gwybod dy fod yn dal yn fyw.”