7 ei feibion a'i ferched a'i wyrion; daeth â'i deulu i gyd i'r Aifft.
8 Dyma enwau'r Israeliaid a ddaeth i'r Aifft, sef Jacob, a'i feibion: Reuben cyntafanedig Jacob,
9 a meibion Reuben: Hanoch, Palu, Hesron a Charmi.
10 Meibion Simeon: Jemwel, Jamin, Ohad, Jachin, Sohar, a Saul mab gwraig o blith y Canaaneaid.
11 Meibion Lefi: Gerson, Cohath a Merari.
12 Meibion Jwda: Er, Onan, Sela, Peres a Sera (ond bu farw Er ac Onan yng ngwlad Canaan); a meibion Peres: Hesron a Hamul.
13 Meibion Issachar: Tola, Pufa, Job a Simron.