1 Yna aeth Joseff a dweud wrth Pharo, “Y mae fy nhad a'm brodyr wedi dod o wlad Canaan, gyda'u preiddiau, eu gyrroedd, a'u holl eiddo, ac y maent wedi cyrraedd gwlad Gosen.”
2 Cymerodd bump o'i frodyr a'u cyflwyno i Pharo,
3 a gofynnodd Pharo i'r brodyr, “Beth yw eich galwedigaeth?” Atebasant, “Bugeiliaid yw dy weision, fel ein tadau.”
4 Dywedasant hefyd wrth Pharo, “Yr ydym wedi dod i aros dros dro yn y wlad, gan nad oes borfa i anifeiliaid dy weision, oherwydd y mae'r newyn yn drwm yng ngwlad Canaan. Yn awr, caniatâ i'th weision gael aros yng ngwlad Gosen.”