19 Pam y byddwn farw o flaen dy lygaid, ni a'n tir? Pryn ni a'n tir am fwyd, a byddwn ni a'n tir yn gaethion i Pharo; rho dithau had inni i'n cadw'n fyw, rhag inni farw ac i'r tir fynd yn ddiffaith.”
20 Felly prynodd Joseff holl dir yr Aifft i Pharo. Gwerthodd pob un o'r Eifftiaid ei faes am fod y newyn yn drwm, ac aeth y wlad yn eiddo Pharo.
21 Ac am y bobl, fe'u gwnaeth i gyd yn gaethion, o naill gwr yr Aifft i'r llall.
22 Yr unig dir na phrynodd mohono oedd tir yr offeiriaid. Yr oedd gan yr offeiriaid gyfran wedi ei phennu gan Pharo, ac ar y gyfran a roddwyd iddynt gan Pharo yr oeddent yn byw; felly ni werthasant eu tir.
23 Yna dywedodd Joseff wrth y bobl, “Yr wyf heddiw wedi eich prynu chwi a'ch tir i Pharo. Dyma had ichwi; heuwch chwithau'r tir.
24 Pan ddaw'r cynhaeaf rhowch y bumed ran i Pharo. Cewch gadw pedair rhan o'r cnwd yn had i'r meysydd ac yn fwyd i chwi, eich teuluoedd a'ch rhai bach.”
25 Meddent hwythau, “Yr wyt wedi arbed ein bywyd. Os yw'n dderbyniol gan ein harglwydd, byddwn yn gaethion i Pharo.”