2 Cymerodd bump o'i frodyr a'u cyflwyno i Pharo,
3 a gofynnodd Pharo i'r brodyr, “Beth yw eich galwedigaeth?” Atebasant, “Bugeiliaid yw dy weision, fel ein tadau.”
4 Dywedasant hefyd wrth Pharo, “Yr ydym wedi dod i aros dros dro yn y wlad, gan nad oes borfa i anifeiliaid dy weision, oherwydd y mae'r newyn yn drwm yng ngwlad Canaan. Yn awr, caniatâ i'th weision gael aros yng ngwlad Gosen.”
5 Yna dywedodd Pharo wrth Joseff, “Daeth dy dad a'th frodyr atat,
6 ac y mae gwlad yr Aifft o'th flaen. Rho gartref i'th dad a'th frodyr yn y man gorau, a gad iddynt fyw yng ngwlad Gosen. Os gwyddost am wŷr medrus yn eu mysg, gosod hwy yn benbugeiliaid ar fy anifeiliaid i.”
7 Daeth Joseff â'i dad i'w gyflwyno gerbron Pharo, a bendithiodd Jacob Pharo.
8 Gofynnodd Pharo i Jacob, “Faint yw dy oed?”