26 Felly gwnaeth Joseff hi'n ddeddf yng ngwlad yr Aifft, deddf sy'n sefyll hyd heddiw, fod y bumed ran yn eiddo i Pharo. Tir yr offeiriaid oedd yr unig dir na ddaeth yn eiddo i Pharo.
27 Arhosodd yr Israeliaid yn yr Aifft, yng ngwlad Gosen. Cawsant feddiannau ynddi, a bu iddynt gynyddu ac amlhau yn ddirfawr.
28 Bu Jacob fyw ddwy flynedd ar bymtheg yng ngwlad yr Aifft. Felly yr oedd oed llawn Jacob yn gant pedwar deg a saith.
29 Pan nesaodd diwrnod marw Israel, galwodd ei fab Joseff, ac meddai wrtho, “Os cefais unrhyw ffafr yn dy olwg, rho dy law dan fy nghlun a thynga y byddi'n deyrngar a ffyddlon imi. Paid â'm claddu yn yr Aifft,
30 ond pan orweddaf gyda'm hynafiaid, cluda fi o'r Aifft a'm claddu yn eu beddrod hwy.” Atebodd Joseff, “Mi wnaf fel yr wyt yn dymuno.”
31 Ychwanegodd Jacob, “Dos ar dy lw wrthyf.” Aeth yntau ar ei lw. Yna ymgrymodd Israel a'i bwys ar ei ffon.