7 Daeth Joseff â'i dad i'w gyflwyno gerbron Pharo, a bendithiodd Jacob Pharo.
8 Gofynnodd Pharo i Jacob, “Faint yw dy oed?”
9 Atebodd Jacob, “Yr wyf wedi cael ymdeithio ar y ddaear am gant tri deg o flynyddoedd. Byr a chaled fu fy ngyrfa, ac ni chyrhaeddais eto oed fy nhadau pan oeddent hwy yn fyw.”
10 Wedi i Jacob fendithio Pharo, aeth allan o'i ŵydd.
11 Yna gwnaeth Joseff gartref i'w dad a'i frodyr, a rhoes iddynt feddiant yn y rhan orau o wlad yr Aifft, yn nhir Rameses, fel y gorchmynnodd Pharo.
12 Gofalodd Joseff am fwyd i'w dad a'i frodyr, ac i holl dylwyth ei dad yn ôl yr angen.
13 Darfu'r bwyd drwy'r wlad, am fod y newyn yn drwm iawn; a nychodd gwlad yr Aifft a gwlad Canaan o achos y newyn.