1 Ar ôl hyn dywedwyd wrth Joseff, “Y mae dy dad yn wael.” Felly cymerodd gydag ef ei ddau fab, Manasse ac Effraim,
2 a phan ddywedwyd wrth Jacob, “Y mae dy fab Joseff wedi dod atat”, cafodd Israel nerth i godi ar ei eistedd yn y gwely.
3 Yna dywedodd Jacob wrth Joseff, “Ymddangosodd Duw Hollalluog i mi yn Lus, yng ngwlad Canaan, a'm bendithio
4 a dweud wrthyf, ‘Fe'th wnaf di'n ffrwythlon a lluosog, yn gynulliad o bobloedd, a rhof y wlad hon yn etifeddiaeth dragwyddol i'th ddisgynyddion ar dy ôl.’