11 A dywedodd Israel wrth Joseff, “Ni feddyliais y cawn weld dy wyneb byth eto, a dyma Dduw wedi peri imi weld dy blant hefyd.”
12 Derbyniodd Joseff hwy oddi ar lin Jacob, ac ymgrymodd i'r llawr.
13 Yna cymerodd Joseff y ddau ohonynt, Effraim yn ei law dde i fod ar law chwith Israel, a Manasse yn ei law chwith i fod ar law dde Israel, a daeth â hwy ato.
14 Estynnodd Israel ei law dde a'i gosod ar ben Effraim, yr ieuengaf, a'i law chwith ar ben Manasse, trwy groesi ei ddwylo, er mai Manasse oedd yr hynaf.
15 Yna bendithiodd Joseff a dweud:“Y Duw y rhodiodd fy nhadau Abraham ac Isaac o'i flaen,y Duw a fu'n fugail imi trwy fy mywyd hyd heddiw,
16 yr angel a'm gwaredodd rhag pob drwg,bydded iddo ef fendithio'r llanciau hyn.Bydded arnynt fy enw i ac enw fy nhadau, Abraham ac Isaac,a boed iddynt gynyddu yn niferus ar y ddaear.”
17 Gwelodd Joseff fod ei dad wedi gosod ei law dde ar ben Effraim, ac nid oedd yn hoffi hynny. Gafaelodd yn llaw ei dad i'w symud oddi ar ben Effraim a'i gosod ar ben Manasse,