5 Ac yn awr, fi piau dy ddau fab, a anwyd i ti yng ngwlad yr Aifft cyn i mi ddod atat i'r Aifft. Fi piau Effraim a Manasse; byddant fel Reuben a Simeon i mi.
6 Ti fydd piau'r plant a genhedli ar eu hôl, ond dan enw eu brodyr y byddant yn etifeddu.
7 Oherwydd fel yr oeddwn yn dod o Padan, bu Rachel farw ar y daith yng ngwlad Canaan pan oedd eto dipyn o ffordd i Effrath, a chleddais hi yno ar y ffordd i Effrath, hynny yw Bethlehem.”
8 Pan welodd Israel feibion Joseff, gofynnodd, “Pwy yw'r rhain?”
9 Ac atebodd Joseff ei dad, “Dyma fy meibion a roddodd Duw imi yma.” Dywedodd yntau, “Tyrd â hwy ataf i mi eu bendithio.”
10 Yr oedd llygaid Israel wedi pylu gan henaint, ac ni allai weld. Felly aeth Joseff â hwy yn nes at ei dad, a chusanodd yntau hwy a'u cofleidio.
11 A dywedodd Israel wrth Joseff, “Ni feddyliais y cawn weld dy wyneb byth eto, a dyma Dduw wedi peri imi weld dy blant hefyd.”