9 Ac atebodd Joseff ei dad, “Dyma fy meibion a roddodd Duw imi yma.” Dywedodd yntau, “Tyrd â hwy ataf i mi eu bendithio.”
10 Yr oedd llygaid Israel wedi pylu gan henaint, ac ni allai weld. Felly aeth Joseff â hwy yn nes at ei dad, a chusanodd yntau hwy a'u cofleidio.
11 A dywedodd Israel wrth Joseff, “Ni feddyliais y cawn weld dy wyneb byth eto, a dyma Dduw wedi peri imi weld dy blant hefyd.”
12 Derbyniodd Joseff hwy oddi ar lin Jacob, ac ymgrymodd i'r llawr.
13 Yna cymerodd Joseff y ddau ohonynt, Effraim yn ei law dde i fod ar law chwith Israel, a Manasse yn ei law chwith i fod ar law dde Israel, a daeth â hwy ato.
14 Estynnodd Israel ei law dde a'i gosod ar ben Effraim, yr ieuengaf, a'i law chwith ar ben Manasse, trwy groesi ei ddwylo, er mai Manasse oedd yr hynaf.
15 Yna bendithiodd Joseff a dweud:“Y Duw y rhodiodd fy nhadau Abraham ac Isaac o'i flaen,y Duw a fu'n fugail imi trwy fy mywyd hyd heddiw,