17 Felly yr oedd oes gyfan Mahalalel yn wyth gant naw deg a phump o flynyddoedd; yna bu farw.
18 Bu Jered fyw am gant chwe deg a dwy o flynyddoedd cyn geni iddo Enoch.
19 Ac wedi geni Enoch, bu Jered fyw am wyth gan mlynedd, a bu iddo feibion a merched eraill.
20 Felly yr oedd oes gyfan Jered yn naw cant chwe deg a dwy o flynyddoedd; yna bu farw.
21 Bu Enoch fyw am chwe deg a phump o flynyddoedd cyn geni iddo Methwsela.
22 Wedi geni Methwsela, rhodiodd Enoch gyda Duw am dri chan mlynedd, a bu iddo feibion a merched eraill.
23 Felly yr oedd oes gyfan Enoch yn dri chant chwe deg a phump o flynyddoedd.