3 Bu Adda fyw am gant tri deg o flynyddoedd cyn geni mab iddo, ar ei lun a'i ddelw; a galwodd ef yn Seth.
4 Wedi geni Seth, bu Adda fyw am wyth gan mlynedd, a bu iddo feibion a merched eraill.
5 Felly yr oedd oes gyfan Adda yn naw cant tri deg o flynyddoedd; yna bu farw.
6 Bu Seth fyw am gant a phump o flynyddoedd cyn geni iddo Enos.
7 Ac wedi geni Enos, bu Seth fyw am wyth gant a saith o flynyddoedd, a bu iddo feibion a merched eraill.
8 Felly yr oedd oes gyfan Seth yn naw cant a deuddeg o flynyddoedd; yna bu farw.
9 Bu Enos fyw am naw deg o flynyddoedd cyn geni iddo Cenan.