6 Bu Seth fyw am gant a phump o flynyddoedd cyn geni iddo Enos.
7 Ac wedi geni Enos, bu Seth fyw am wyth gant a saith o flynyddoedd, a bu iddo feibion a merched eraill.
8 Felly yr oedd oes gyfan Seth yn naw cant a deuddeg o flynyddoedd; yna bu farw.
9 Bu Enos fyw am naw deg o flynyddoedd cyn geni iddo Cenan.
10 Ac wedi geni Cenan, bu Enos fyw am wyth gant a phymtheg o flynyddoedd, a bu iddo feibion a merched eraill.
11 Felly yr oedd oes gyfan Enos yn naw cant a phump o flynyddoedd; yna bu farw.
12 Bu Cenan fyw am saith deg o flynyddoedd cyn geni iddo Mahalalel.