1 Yr oedd gŵr yng ngwlad Us o'r enw Job, gŵr cywir ac uniawn, yn ofni Duw ac yn cefnu ar ddrwg.
2 Ganwyd iddo saith mab a thair merch,
3 ac yr oedd ganddo saith mil o ddefaid, tair mil o gamelod, pum can iau o ychen, pum cant o asennod, a llawer iawn o weision. Y gŵr hwn oedd y mwyaf o holl bobl y Dwyrain.
4 Arferai ei feibion fynd i gartrefi ei gilydd i gynnal gwledd, pob un yn ei dro, ac anfonent wahoddiad i'w tair chwaer i fwyta ac yfed gyda hwy.