Job 28 BCN

Molawd i Ddoethineb

1 Y mae gwythïen i arian,a gwely i'r aur a burir.

2 Tynnir yr haearn o'r ddaear,a thoddir y garreg yn gopr.

3 Rhydd dyn derfyn ar dywyllwch,a chwilio hyd yr eithafam y mwyn yn y tywyllwch dudew.

4 Agorir pyllau yn y cymoedd ymhell oddi wrth bawb;fe'u hanghofiwyd gan y teithwyr.Y maent yn hongian ymhell o olwg pobl,gan siglo'n ôl ac ymlaen.

5 Ceir bwyd o'r ddaear,eto oddi tani y mae wedi ei chynhyrfu fel gan dân.

6 Y mae ei cherrig yn ffynhonnell y saffir,a llwch aur sydd ynddi.

7 Y mae llwybr na ŵyr hebog amdano,ac nas gwelwyd gan lygad barcud,

8 ac nas troediwyd gan anifeiliaid rhodresgar,ac na theithiodd y llew arno.

9 Estyn dyn ei law am y gallestr,a thry'r mynyddoedd yn bendramwnwgl.

10 Egyr dwnelau yn y creigiau,a gwêl ei lygaid bopeth gwerthfawr.

11 Gesyd argae i rwystro lli'r afonydd,a dwg i oleuni yr hyn a guddiwyd ynddynt.

12 Ond pa le y ceir doethineb?a pha le y mae trigfan deall?

13 Ni ŵyr neb ble mae ei chartref,ac nis ceir yn nhir y byw.

14 Dywed y dyfnder, “Nid yw gyda mi”;dywed y môr yntau, “Nid yw ynof fi.”

15 Ni ellir rhoi aur yn dâl amdani,na phwyso'i gwerth mewn arian.

16 Ni ellir mesur ei gwerth ag aur Offir,nac ychwaith â'r onyx gwerthfawr na'r saffir.

17 Ni ellir cymharu ei gwerth ag aur neu risial,na'i chyfnewid am unrhyw lestr aur.

18 Ni bydd sôn am gwrel a grisial;y mae meddu doethineb yn well na gemau.

19 Ni ellir cymharu ei gwerth â'r topas o Ethiopia,ac nid ag aur coeth y prisir hi.

20 O ble y daw doethineb?a phle mae trigfan deall?

21 Cuddiwyd hi oddi wrth lygaid popeth byw,a hefyd oddi wrth adar y nefoedd.

22 Dywedodd Abadon a marwolaeth,“Clywsom â'n clustiau sôn amdani.”

23 Duw sy'n deall ei ffordd;y mae ef yn gwybod ei lle.

24 Oherwydd gall ef edrych i derfynau'r ddaear,a gweld popeth sy dan y nefoedd.

25 Pan roddodd ef ei bwysau i'r gwynt,a rhannu'r dyfroedd â mesur,

26 a gosod terfyn i'r glaw,a ffordd i'r mellt a'r taranau,

27 yna fe'i gwelodd hi a'i mynegi,fe'i sefydlodd hi a'i chwilio allan.

28 A dywedodd wrth ddynolryw,“Ofn yr ARGLWYDD yw doethineb,a chilio oddi wrth ddrwg yw deall.”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40 41 42