1 Atebodd Job:
2 “Gwrandewch eto ar fy ngeiriau;felly y rhowch gysur imi.
3 Goddefwch i mi lefaru,ac wedi imi lefaru, cewch watwar.
4 Oni chaf ddweud fy nghwyn wrth rywun?a pham na chaf fod yn ddiamynedd?
5 Edrychwch arnaf, a synnwch,a rhowch eich llaw ar eich genau.
6 Pan ystyriaf hyn, rwy'n arswydo,a daw cryndod i'm cnawd.
7 “Pam y caiff yr annuwiol fyw,a heneiddio'n gadarnach eu nerth?
8 Y mae eu plant yn byw o'u cwmpas,a'u teulu yn eu hymyl.
9 Y mae eu tylwyth yn ddiogel oddi wrth ddychryn,ac ni ddaw dyrnod Duw arnynt.
10 Y mae eu tarw'n cyfloi yn ddi-feth,a'u buwch yn bwrw lloi heb erthylu.
11 Caiff eu plantos grwydro'n rhydd fel defaid,a dawnsia'u plant yn hapus.
12 Canant gyda'r dympan a'r delyn,a byddant lawen wrth sŵn y pibau.
13 Treuliant eu dyddiau mewn esmwythyd,a disgynnant i Sheol mewn heddwch.
14 Dywedant wrth Dduw, ‘Cilia oddi wrthym;ni fynnwn wybod dy ffyrdd.
15 Pwy yw'r Hollalluog i ni ei wasanaethu,a pha fantais sydd inni os gweddïwn arno?’
16 “Ai yn eu dwylo'u hunain y mae eu ffyniant?Pell yw cyngor y drygionus oddi wrth Dduw.
17 “Pa mor aml y diffoddir lamp yr annuwiol,ac y daw eu dinistr arnynt hwy,ac y tynghedir hwy i boen gan ei lid?
18 A ydynt hwy fel gwelltyn o flaen y gwynt,neu fel us a ddygir ymaith gan y storm?
19 A geidw Duw ddinistr rhiant i'w blant?Na, taled iddo ef ei hun, a'i ddarostwng.
20 Bydded i'w lygaid ei hun weld ei ddinistr,ac yfed o lid yr Hollalluog.
21 Pa ddiddordeb fydd ganddo yn ei deulu ar ei ôl,pan fydd nifer ei fisoedd wedi darfod?
22 “A ellir dysgu gwybodaeth i Dduw?Onid ef sy'n barnu'r beilchion?
23 “Bydd un farw yn ei lwyddiant,mewn llonyddwch a thawelwch,
24 ei lwynau yn llawn braster,a mêr ei esgyrn yn iraidd.
25 Bydd arall farw yn chwerw ei ysbryd,heb brofi daioni.
26 Ond gorweddant gyda'i gilydd yn y pridd,a'r pryfed yn amdo drostynt.
27 “Yn awr gwn eich meddyliau,a'r bwriadau sydd gennych i'm drygu;
28 oherwydd dywedwch, ‘Ble'r aeth tŷ'r pendefig?a phle mae trigfannau'r annuwiol?’
29 Oni ofynnwch i'r rhai sy'n teithio'r ffordd?Onid ydych yn adnabod yr arwyddion,
30 yr arbedir y drygionus rhag dydd dinistr,ac y gwaredir ef rhag dydd digofaint?
31 Pwy a'i cyhudda yn ei wyneb?Pwy a dâl yn ôl iddo am yr hyn a wnaeth?
32 Pan ddygir ef i'r bedd,cedwir gwyliadwriaeth ar ei feddrod.
33 Y mae tywyrch y fynwent yn dyner arno;bydd gorymdaith yn dilyn ar ei ôl,a thyrfa niferus yn cerdded o'i flaen.
34 Sut, felly, y mae eich gwagedd yn gysur i mi?Nid oes ond twyll yn eich atebion.”