1 Peidiodd y tri gŵr â dadlau rhagor â Job, am fod Job yn ei ystyried ei hun yn fwy cyfiawn na Duw.
2 Ond yr oedd Elihu fab Barachel y Busiad, o dylwyth Ram, wedi ei gythruddo yn erbyn Job. Yr oedd yn ddig am ei fod yn ei ystyried ei hun yn gyfiawn gerbron Duw,
3 a'r un mor ddig wrth ei dri chyfaill am eu bod yn methu ateb Job er iddynt ei gondemnio.
4 Tra oeddent hwy'n llefaru wrth Job, yr oedd Elihu wedi cadw'n dawel am eu bod yn hŷn nag ef.
5 Ond digiodd pan welodd nad oedd gan y tri gŵr ateb i Job.
6 Yna dywedodd Elihu fab Barachel y Busiad:“Dyn ifanc wyf fi,a chwithau'n hen;am hyn yr oeddwn yn ymatal,ac yn swil i ddweud fy marn wrthych.
7 Dywedais, ‘Caiff profiad maith siarad,ac amlder blynyddoedd draethu doethineb.’
8 Ond yr ysbryd oddi mewn i rywun,ac anadl yr Hollalluog, sy'n ei wneud yn ddeallus.
9 Nid yr oedrannus yn unig sydd ddoeth,ac nid yr hen yn unig sy'n deall beth sydd iawn.
10 Am hyn yr wyf yn dweud, ‘Gwrando arnaf;gad i minnau ddweud fy marn.’
11 “Bûm yn disgwyl am eich geiriau,ac yn gwrando am eich deallusrwydd;tra oeddech yn dewis eich geiriau,
12 sylwais yn fanwl arnoch,ond nid oedd yr un ohonoch yn gallu gwrthbrofi Job,nac ateb ei ddadleuon.
13 Peidiwch â dweud, ‘Fe gawsom ni ddoethineb’;Duw ac nid dyn a'i trecha.
14 Nid yn f'erbyn i y trefnodd ei ddadleuon;ac nid â'ch geiriau chwi yr atebaf fi ef.
15 “Y maent hwy wedi eu syfrdanu, ac yn methu ateb mwyach;pallodd geiriau ganddynt.
16 A oedaf fi am na lefarant hwy,ac am eu bod hwy wedi peidio ag ateb?
17 Gwnaf finnau fy rhan trwy ateb,a dywedaf fy marn.
18 Yr wyf yn llawn o eiriau,ac ysbryd ynof sy'n fy nghymell.
19 O'm mewn yr wyf fel petai gwin yn methu arllwys allan,a minnau fel costrelau newydd ar fin rhwygo.
20 Rhaid i mi lefaru er mwyn cael gollyngdod,rhaid i mi agor fy ngenau i ateb.
21 Ni ddangosaf ffafr at neb,ac ni wenieithiaf i neb;
22 oherwydd ni wn i sut i wenieithio;pe gwnawn hynny, byddai fy nghreawdwr ar fyr dro yn fy symud.”