1 Dywedodd Elihu:
2 “A gredi di fod hyn yn iawn?A wyt ti'n honni bod yn gyfiawn o flaen Duw,
3 a thithau'n dweud, ‘Pa werth ydyw i ti,neu pa fantais i mi fy hun fod heb bechu?’
4 Fe roddaf fi'r ateb iti,a hefyd i'th gyfeillion.
5 Edrych ar yr awyr, ac ystyria,a sylwa ar y cymylau sydd uwch dy ben.
6 Os pechaist, pa wahaniaeth yw iddo ef?Ac os amlha dy droseddau, beth a wna hynny iddo ef?
7 Os wyt yn gyfiawn, beth yw'r fantais iddo ef,neu beth a dderbyn ef o'th law?
8 Â meidrolion fel ti y mae a wnelo dy ddrygioni,ac â phobl y mae a wnelo dy gyfiawnder.
9 “Pan waedda pobl dan faich gorthrwm,a llefain am waredigaeth o afael y mawrion,
10 ni ddywed neb, ‘Ble mae Duw, fy ngwneuthurwr,a rydd destun cân yn y nos,
11 ac a'n gwna'n fwy deallus na'r anifeiliaid gwylltion,ac yn fwy doeth nag adar yr awyr?’
12 Felly, er iddynt weiddi, nid etyb ef,o achos balchder y drygionus.
13 Ofer yn wir! Nid yw Duw'n gwrando arno,ac nid yw'r Hollalluog yn cymryd sylw ohono.
14 Nac ychwaith ohonot tithau pan ddywedi nad wyt yn ei weld,a bod yr achos o'i flaen, a'th fod yn dal i ddisgwyl wrtho.
15 Ond yn awr, am nad yw ef yn cosbi yn ei ddig,ac nad yw'n sylwi'n fanwl ar gamwedd,
16 fe lefarodd Job yn ynfyd,ac amlhau geiriau heb ddeall.”