Job 39 BCN

1 “A wyddost ti amser llydnu ygeifr gwylltion?A fuost ti'n gwylio'r ewigod yn esgor,

2 yn cyfrif y misoedd a gyflawnantac yn gwybod amser eu llydnu?

3 Y maent yn crymu i eni eu llydnod,ac yn bwrw eu brych.

4 Y mae eu llydnod yn cryfhau ac yn prifio yn y maes,yn mynd ymaith, ac ni ddônt yn ôl.

5 “Pwy sy'n rhoi ei ryddid i'r asyn gwyllt,ac yn datod rhwymau'r asyn cyflym

6 y rhoddais yr anialdir yn gynefin iddo,a thir diffaith yn lle iddo fyw?

7 Y mae'n gas ganddo sŵn y dref;y mae'n fyddar i floeddiadau gyrrwr.

8 Crwydra'r mynyddoedd am borfa,a chwilia am bob blewyn glas.

9 “A yw'r ych gwyllt yn fodlon bod yn dy wasanaeth,a threulio'r nos wrth dy breseb?

10 A wyt yn gallu ei rwymo i gerdded yn y rhych,neu a fydd iddo lyfnu'r dolydd ar dy ôl?

11 A wyt ti'n dibynnu arno am ei fod yn gryf?A adewi dy lafur iddo?

12 A ymddiriedi ynddo i ddod â'th rawn yn ôl,a'i gasglu i'th lawr dyrnu?

13 “Ysgwyd yn brysur a wna adenydd yr estrys,ond heb fedru hedfan fel adenydd y garan;

14 y mae'n gadael ei hwyau ar y ddaear,i ddeor yn y pridd,

15 gan anghofio y gellir eu sathru dan draed,neu y gall anifail gwyllt eu mathru.

16 Y mae'n esgeulus o'i chywion,ac yn eu trin fel pe na baent yn perthyn iddi,heb ofni y gallai ei llafur fod yn ofer.

17 Oherwydd gadawodd Duw hi heb ddoethineb,ac nid oes ganddi ronyn o ddeall.

18 Ond pan gyfyd a rhedeg,gall chwerthin am ben march a'i farchog.

19 “Ai ti sy'n rhoi nerth i'r march,ac yn gwisgo'i war â mwng?

20 Ai ti sy'n gwneud iddo ruglo fel locust,a gweryru nes creu dychryn?

21 Cura'r llawr â'i droed, ac ymffrostia yn ei nerthpan â allan i wynebu'r frwydr.

22 Y mae'n ddi-hid ac yn ddi-fraw;ni thry'n ôl rhag y cleddyf.

23 O'i gwmpas y mae clep y cawell saethau,fflach y cleddyf a'r waywffon.

24 Yn aflonydd a chynhyrfus y mae'n difa'r ddaear;ni all aros yn llonydd pan glyw sain utgorn.

25 Pan glyw'r utgorn, dywed, ‘Aha!’Fe synhwyra frwydr o bell,trwst y capteiniaid a'u bloedd.

26 “Ai dy ddeall di sy'n gwneud i'r hebog hedfana lledu ei adenydd tua'r De?

27 Ai d'orchymyn di a wna i'r eryr hedfana gosod ei nyth yn uchel?

28 Fe drig ar y graig, ac aros ynoyng nghilfach y graig a'i diogelwch.

29 Oddi yno y chwilia am fwyd,gan edrych i'r pellter.

30 Y mae ei gywion yn llowcio gwaed;a phle bynnag y ceir ysgerbwd, y mae ef yno.”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40 41 42