1 Yna atebodd Bildad y Suhiad:
2 “Am ba hyd y lleferi fel hyn,a chymaint o ymffrost yn dy eiriau?
3 A yw Duw yn gwyrdroi barn?A yw'r Hollalluog yn gwyro cyfiawnder?
4 Pan bechodd dy feibion yn ei erbyn,fe'u trosglwyddodd i afael eu trosedd.
5 Os ceisi di Dduw yn ddyfal,ac ymbil ar yr Hollalluog,
6 ac os wyt yn bur ac uniawn,yna fe wylia ef drosot,a'th adfer i'th safle o gyfiawnder.
7 Pe byddai dy ddechreuad yn fychan,byddai dy ddiwedd yn fawr.
8 “Yn awr gofyn i'r oes a fu,ac ystyria'r hyn a ganfu'r hynafiaid.
9 Canys nid ydym ni ond er doe, ac anwybodus ŷm,a chysgod yw ein dyddiau ar y ddaear.
10 Oni fyddant hwy'n dy hyfforddi, a mynegi wrthyt,a rhoi atebion deallus?
11 A dyf brwyn lle nad oes cors?A ffynna hesg heb ddŵr?
12 Er eu bod yn ir a heb eu torri,eto gwywant yn gynt na'r holl blanhigion.
13 Felly y mae tynged yr holl rai sy'n anghofio Duw,ac y derfydd gobaith yr annuwiol.
14 Edau frau yw ei hyder,a'i ymffrost fel gwe'r pryf copyn.
15 Pwysa ar ei dŷ, ond ni saif;cydia ynddo, ond ni ddeil.
16 Bydd yn ir yn llygad yr haul,yn estyn ei frigau dros yr ardd;
17 ymbletha'i wraidd dros y pentwr cerrig,a daw i'r golwg rhwng y meini.
18 Ond os diwreiddir ef o'i le,fe'i gwedir: ‘Ni welais di’.
19 Gwywo felly yw ei natur;ac yna tyf un arall o'r pridd.
20 “Wele, ni wrthyd Duw yr uniawn,ac ni chydia yn llaw y drygionus.
21 Lleinw eto dy enau â chwerthin,a'th wefusau â gorfoledd.
22 Gwisgir dy elynion â gwarth,a diflanna pabell y drygionus.”