Job 5 BCN

1 “Galw'n awr; a oes rhywun a'th etyb?At ba un o'r rhai sanctaidd y gelli droi?

2 Y mae dicter yn lladd yr ynfyd,a chenfigen yn dwyn angau i'r ffôl.

3 Gwelais yr ynfyd yn magu gwraidd,ond ar fyrder melltithiwyd ei drigfan;

4 ac aeth ei blant y tu hwnt i ymwared,wedi eu sathru yn y porth, heb neb i'w hachub.

5 Y mae'r newynog yn bwyta'i gynhaeaf ef,ac yn ei gymryd hyd yn oed o blith y drain;ac y mae'r sychedig yn dyheu am eu cyfoeth.

6 Canys nid o'r pridd y daw gofid,nac o'r ddaear orthrymder;

7 ond genir dynion i orthrymder,cyn sicred ag y tasga'r gwreichion.

8 “Ond myfi, ceisio Duw a wnawn i,a gosod fy achos o'i flaen ef,

9 yr un a gyflawna weithredoedd mawr ac anchwiliadwy,rhyfeddodau dirifedi.

10 Ef sy'n tywallt y glaw ar y ddaear,a'r dyfroedd ar y meysydd.

11 Y mae'n codi'r rhai isel i fyny,a dyrchefir y galarwyr i ddiogelwch.

12 Y mae'n diddymu cynllwynion y cyfrwys;ni all eu dwylo wneud dim o fudd.

13 Y mae ef yn dal y doethion yn eu cyfrwystra,a buan y diflanna cynllun y dichellgar.

14 Brwydrant â thywyllwch hyd yn oed liw dydd,ac ymbalfalant ganol dydd fel yn y nos.

15 Ond gwared ef yr anghenus o'u gafael,a'r truan o afael y cryf.

16 Am hynny y mae gobaith i'r tlawd,ac anghyfiawnder yn cau ei safn.

17 “Dedwydd y sawl a gerydda Duw,ac na wrthyd ddisgyblaeth yr Hollalluog.

18 Ef a ddoluria, ac ef hefyd a rwyma'r dolur;ef a archolla, ond rhydd ei ddwylo feddyginiaeth.

19 Fe'th wared di rhag chwe chyfyngder;ac mewn saith, ni ddaw drwg arnat.

20 Fe'th achub di rhag marw mewn newyn,a rhag y cleddyf mewn brwydr.

21 Cei loches rhag ffrewyll y tafod,ac nid ofni'r dinistr pan ddaw.

22 Chwerddi ar ddinistr a newyn,ac ni'th ddychrynir gan fwystfil gwyllt.

23 Byddi mewn cynghrair â cherrig y tir,a bydd y bwystfil gwyllt mewn heddwch â thi.

24 Yna gweli fod dy babell yn ddiogel,a phan rifi dy ddiadell, ni bydd un ar goll.

25 Canfyddi hefyd mai niferus yw dy dylwyth,a'th epil fel gwellt y maes.

26 Ei i'r bedd mewn henaint teg,fel y cesglir ysgub yn ei phryd.

27 Chwiliasom hyn yn ddyfal, ac y mae'n wir;gwrando dithau arno, a deall drosot dy hun.”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40 41 42