Job 20 BCN

1 Yna atebodd Soffar y Naamathiad:

2 “Yn awr, fe'm cynhyrfir i ateb;am hynny atebaf ar frys.

3 Clywais gerydd sy'n fy nifrïo;y mae cynnwrf fy meddwl yn fy ngorfodi i ateb.

4 Onid wyt yn gwybod hyn? o'r dechrau,er pan osodwyd pobl ar y ddaear,

5 byr yw gorfoledd y drygionus,ac am gyfnod yn unig y pery llawenydd yr annuwiol.

6 Er i'w falchder esgyn i'r uchelder,ac i'w ben gyffwrdd â'r cymylau,

7 eto derfydd am byth fel ei dom ei hun,a dywed y rhai a'i gwelodd, ‘Ple mae ef?’

8 Eheda ymaith fel breuddwyd, ac ni fydd yn bod;fe'i hymlidir fel gweledigaeth nos.

9 Y llygad a'i gwelodd, ni wêl mohono mwy,ac nid edrych arno yn ei le.

10 Cais ei blant ffafr y tlawd,a dychwel ei ddwylo ei gyfoeth.

11 Y mae ei esgyrn sy'n llawn egniyn gorwedd gydag ef yn y llwch.

12 “Er i ddrygioni droi'n felys yn ei enau,a'i fod yntau am ei gadw dan ei dafod,

13 ac yn anfodlon ei ollwng,ond yn ei ddal dan daflod ei enau,

14 eto y mae ei fwyd yn ei gyllayn troi'n wenwyn asb iddo.

15 Llynca gyfoeth, ac yna'i chwydu;bydd Duw'n ei dynnu allan o'i fol.

16 Sugna wenwyn yr asb,ac yna fe'i lleddir gan golyn gwiber.

17 Ni chaiff weld ffrydiau o olew,nac afonydd o fêl a llaeth.

18 Dychwel ffrwyth ei lafur heb iddo elwa arno;er cymaint ei enillion, ni chaiff eu mwynhau.

19 Oherwydd gorthrymodd y tlawd a'i adael yn ddiymgeledd;cipiodd dŷ nas adeiladodd.

20 Ni ŵyr sut i dawelu ei chwant,ac ni ddianc dim rhag ei wanc.

21 Nid oes gweddill iddo'i fwyta,ac felly nid oes parhad i'w ffyniant.

22 Wedi digoni ei chwant, â'n gyfyng arno;daw holl rym gofid arno.

23 Pan fydd ar fedr llenwi ei fol,gyrrir arno angerdd llid,a'i dywallt i lawr i'w berfedd.

24 “Fe ffy rhag arfau haearn,ond fe'i trywenir gan y saeth bres.

25 Tynnir hi allan o'i gorff,y blaen gloyw allan o'i fustl;daw dychrynfeydd arno.

26 Tywyllwch llwyr a gadwyd ar gyfer ei drysorau;ysir ef gan dân nad oes raid ei chwythu;difethir yr hyn a adawyd yn ei babell.

27 Dadlenna'r nefoedd ei gamwedd,a chyfyd y ddaear yn ei erbyn.

28 Bydd i'r dilyw ddwyn ymaith ei dŷ,a llifogydd, yn nydd ei lid.

29 Dyma dynged yr annuwiol oddi wrth Dduw,a'r etifeddiaeth a osododd iddo.”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40 41 42