Job 3 BCN

Cwynfan Job

1 Wedi hyn dechreuodd Job siarad a melltithio dydd ei eni.

2 Meddai Job:

3 “Difoder y dydd y'm ganwyd,a'r nos y dywedwyd, ‘Cenhedlwyd bachgen’.

4 Bydded y dydd hwnnw yn dywyllwch;na chyfrifer ef gan Dduw oddi uchod,ac na lewyrched goleuni arno.

5 Cuddier ef gan dywyllwch a'r fagddu;arhosed cwmwl arno a gorlether ef gan ddüwch y dydd.

6 Cymered y gwyll feddiant o'r nos honno;na chyfrifer hi ymhlith dyddiau'r flwyddyn,ac na ddoed i blith nifer y misoedd.

7 Wele'r nos honno, bydded ddiffrwyth,heb sŵn gorfoledd ynddi.

8 Melltithier hi gan y rhai sy'n melltithio'r dyddiau,y rhai sy'n medru cyffroi'r lefiathan.

9 Tywylled sêr ei chyfddydd,disgwylied am oleuni heb ei gael,ac na weled doriad gwawr,

10 am na chaeodd ddrysau croth fy mam,na chuddio gofid o'm golwg.

11 Pam na fûm farw yn y groth,neu drengi pan ddeuthum allan o'r bru?

12 Pam y derbyniodd gliniau fi,ac y rhoddodd bronnau sugn i mi?

13 Yna, byddwn yn awr yn gorwedd yn llonydd,yn cysgu'n dawel ac yn cael gorffwys,

14 gyda brenhinoedd a chynghorwyr daear,a fu'n adfer adfeilion iddynt eu hunain,

15 neu gyda thywysogion goludog,a lanwodd eu tai ag arian,

16 neu heb fyw, fel erthyl a guddiwyd,fel babanod na welsant oleuni.

17 Yno, peidia'r drygionus â therfysgu,a chaiff y lluddedig orffwys.

18 Hefyd caiff y carcharorion lonyddwch;ni chlywant lais y meistri gwaith.

19 Bychan a mawr sydd yno,a'r caethwas yn rhydd oddi wrth ei feistr.

20 Pam y rhoddir goleuni i'r gorthrymediga bywyd i'r chwerw ei ysbryd,

21 sy'n dyheu am farwolaeth, heb iddi ddod,sy'n cloddio amdani yn fwy nag am drysor cudd,

22 sy'n llawenychu pan gaiff feddrod,ac yn gorfoleddu pan gaiff fedd?

23 “Ond am ddyn, cuddiwyd ei ffordd,a chaeodd Duw amdano.

24 Daw fy ochenaid o flaen fy mwyd,a thywelltir fy ngriddfan fel dyfroedd.

25 Y peth a ofnaf a ddaw arnaf,a'r hyn yr arswydaf rhagddo a ddaw imi.

26 Nid oes imi dawelwch na llonyddwch;ni chaf orffwys, canys daw dychryn.”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40 41 42