Job 7 BCN

1 “Onid llafur caled sydd i ddyn ar y ddaear,a'i ddyddiau fel dyddiau gwas cyflog?

2 Fel caethwas yn dyheu am gysgod,a gwas yn disgwyl am ei dâl,

3 felly y daeth misoedd ofer i'm rhan innau,a threfnwyd imi nosweithiau gofidus.

4 Pan orweddaf, dywedaf, ‘Pa bryd y caf godi?’Y mae'r nos yn hir, a byddaf yn blino yn troi a throsi hyd doriad gwawr.

5 Gorchuddiwyd fy nghnawd gan bryfed a budreddi;crawniodd fy nghroen, ac yna torri allan.

6 Y mae fy nyddiau'n gyflymach na gwennol gwehydd;darfyddant fel edafedd yn dirwyn i ben.

7 “Cofia mai awel o wynt yw fy hoedl;ni wêl fy llygaid ddaioni eto.

8 Y llygad sy'n edrych arnaf, ni'm gwêl;ar amrantiad ni fyddaf ar gael iti.

9 Fel y cili'r cwmwl a diflannu,felly'r sawl sy'n mynd i Sheol, ni ddychwel oddi yno;

10 ni ddaw eto i'w gartref,ac nid edwyn ei le mohono mwy.

11 “Ond myfi, nid ataliaf fy ngeiriau;llefaraf yng nghyfyngder fy ysbryd,cwynaf yn chwerwder fy enaid.

12 Ai'r môr ydwyf, neu'r ddraig,gan dy fod yn gosod gwyliwr arnaf?

13 “Pan ddywedaf, ‘Fy ngwely a rydd gysur imi;fy ngorweddfa a liniara fy nghwyn’,

14 yr wyt yn fy nychryn â breuddwydion,ac yn f'arswydo â gweledigaethau.

15 Gwell fyddai gennyf fy nhagu,a marw yn hytrach na goddef fy mhoen.

16 Rwy'n ddiobaith; ni ddymunaf fyw am amser maith.Gad lonydd imi, canys y mae fy nyddiau fel anadl.

17 Beth yw meidrolyn i ti ei ystyried,ac iti roi cymaint o sylw iddo?

18 Yr wyt yn ymweld ag ef bob bore,ac yn ei brofi bob eiliad.

19 Pa bryd y peidi ag edrych arnaf,ac y rhoi lonydd imi lyncu fy mhoeri?

20 Os pechais, beth a wneuthum i ti, O wyliwr dynolryw?Pam y cymeraist fi'n nod,nes fy mod yn faich i mi fy hun?

21 Pam na faddeui fy nhrosedda symud fy mai?Yn awr rwy'n gorwedd yn y llwch,ac er i ti chwilio amdanaf, ni fyddaf ar gael.”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40 41 42