Job 15 BCN

Yr Ail Gylch Areithio

1 Yna atebodd Eliffas y Temaniad:

2 “Ai ateb â gwybodaeth nad yw'n ddim ond gwynt a wna'r doeth,a llenwi ei fol â'r dwyreinwynt?

3 A ddadleua ef â gair di-fudd,ac â geiriau di-les?

4 Ond yr wyt ti'n diddymu duwioldeb,ac yn rhwystro defosiwn gerbron Duw.

5 Oherwydd dy gamwedd sy'n hyfforddi dy enau,ac ymadrodd y cyfrwys a ddewisi.

6 Dy enau dy hun sy'n dy gondemnio, nid myfi,a'th wefusau di sy'n tystio yn dy erbyn.

7 “Ai ti a anwyd y cyntaf o bawb?A ddygwyd di i'r byd cyn y bryniau?

8 A wyt ti'n gwrando ar gyfrinach Duw,ac yn cyfyngu doethineb i ti dy hun?

9 Beth a wyddost ti na wyddom ni?Pa grebwyll sydd gennyt nad yw gennym ninnau?

10 Y mae yn ein mysg rai penwyn a rhai oedrannus,rhai sy'n hŷn na'th dad.

11 Ai dibris yn d'olwg yw diddanwch Duw,a'r gair a ddaw'n ddistaw atat?

12 Beth a ddaeth dros dy feddwl?Pam y mae dy lygaid yn fflachio

13 fel yr wyt yn gosod dy ysbryd yn erbyn Duw,ac yn arllwys y geiriau hyn?

14 Sut y gall neb fod yn ddieuog,ac un a anwyd o wraig fod yn gyfiawn?

15 Os nad ymddiried Duw yn ei rai sanctaidd,os nad yw'r nefoedd yn lân yn ei olwg,

16 beth ynteu am feidrolyn, sy'n ffiaidd a llwgr,ac yn yfed anghyfiawnder fel dŵr?

17 “Dangosaf iti; gwrando dithau arnaf.Mynegaf i ti yr hyn a welais

18 (yr hyn y mae'r doethion wedi ei ddweud,ac nad yw wedi ei guddio oddi wrth eu hynafiaid;

19 iddynt hwy yn unig y rhoddwyd y ddaear,ac ni thramwyodd dieithryn yn eu plith):

20 bydd yr annuwiol mewn helbul holl ddyddiau ei oes,trwy gydol y blynyddoedd a bennwyd i'r creulon.

21 Sŵn dychryniadau sydd yn ei glustiau,a daw'r dinistriwr arno yn awr ei lwyddiant.

22 Nid oes iddo obaith dychwelyd o'r tywyllwch;y mae wedi ei dynghedu i'r cleddyf.

23 Crwydryn yw, ac ysglyfaeth i'r fwltur;gŵyr mai diwrnod tywyll sydd wedi ei bennu iddo.

24 Brawychir ef gan ofid a chyfyngder;llethir ef fel brenin parod i ymosod.

25 Oherwydd iddo estyn ei law yn erbyn Duw,ac ymffrostio yn erbyn yr Hollalluog,

26 a rhuthro arno'n haerllug,a both ei darian yn drwchus;

27 oherwydd i'w wyneb chwyddo gan fraster,ac i'w lwynau dewychu â bloneg,

28 fe drig mewn dinasoedd diffaith,mewn tai heb neb yn byw ynddynt,lleoedd sydd ar fin adfeilio.

29 Ni ddaw'n gyfoethog, ac ni phery ei gyfoeth,ac ni chynydda'i olud yn y tir.

30 Ni ddianc rhag y tywyllwch.Deifir ei frig gan y fflam,a syrth ei flagur yn y gwynt.

31 Peidied ag ymddiried mewn gwagedd a'i dwyllo'i hun,canys gwagedd fydd ei dâl.

32 Bydd yn gwywo cyn ei amser,ac ni lasa'i gangen.

33 Dihidla'i rawnwin anaeddfed fel gwinwydden,a bwrw ei flodau fel olewydden.

34 Diffrwyth yw cwmni'r annuwiol,ac fe ysa'r tân drigfannau breibwyr.

35 Beichiogant ar flinder ac ymddŵyn drwg,ac ar dwyll yr esgor eu croth.”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40 41 42