1 “Llesgaodd fy ysbryd, ciliodd fy nyddiau;beddrod fydd fy rhan.
2 Yn wir y mae gwatwarwyr o'm cwmpas;pyla fy llygaid wrth iddynt wawdio.
3 “Gosod dy hun yn feichiau drosof;pwy arall a rydd wystl ar fy rhan?
4 Oherwydd iti gadw eu calon rhag deall,ni fydd i ti eu dyrchafu.
5 Pan fydd rhywun yn gwenieithu ei gyfeillion,bydd llygaid ei blant yn pylu.
6 “Gwnaeth fi'n ddihareb i'r bobl;yr wyf yn un y maent yn poeri arno.
7 Pylodd fy llygaid o achos gofid;aeth fy nghorff i gyd fel cysgod.
8 Synna'r cyfiawn at y fath beth,a ffyrniga'r uniawn yn erbyn yr annuwiol.
9 Fe geidw'r cyfiawn at ei ffordd,a bydd y glân ei ddwylo yn ychwanegu nerth.
10 Pe baech i gyd yn rhoi ailgynnig,eto ni chawn neb doeth yn eich plith.
11 “Ciliodd fy nyddiau; methodd f'amcaniona dyhead fy nghalon.
12 Gwnânt y nos yn ddydd—dewisant weld goleuni er gwaethaf y tywyllwch.
13 Pa obaith sydd gennyf? Sheol fydd fy nghartref;cyweiriaf fy ngwely yn y tywyllwch;
14 dywedaf wrth y pwll, ‘Ti yw fy nhad’,ac wrth lyngyr, ‘Fy mam a'm chwaer’.
15 Ble, felly, y mae fy ngobaith?A phwy a wêl obaith imi?
16 Oni ddisgyn y rhai hyn i Sheol?Onid awn i gyd i'r llwch?”