Job 37 BCN

1 “Am hyn hefyd y mae fy nghalonyn cynhyrfu,ac yn llamu o'i lle.

2 Gwrandewch ar daran ei lais,a'r atsain a ddaw o'i enau.

3 Y mae'n ei yrru ar draws yr wybren,ac yn gyrru ei fellt i gilfachau'r byd.

4 Ar eu hôl fe rua;tarana â'i lais mawr,ac nid yw'n eu hatalpan glywir ei lais.

5 Tarana Duw yn rhyfeddol â'i lais;gwna wyrthiau, y tu hwnt i'n deall.

6 Fe ddywed wrth yr eira, ‘Disgyn ar y ddaear’,ac wrth y glaw a'r cawodydd, ‘Trymhewch’.

7 Y mae pob un yn cael ei gau i mewn,a phopeth a wnânt yn cael ei atal.

8 Â'r anifeiliaid i'w ffeuau,ac aros yn eu gwâl.

9 Daw'r corwynt allan o'i ystafell,ac oerni o'r tymhestloedd.

10 Daw anadl Duw â'r rhew,a rhewa'r llynnoedd yn galed.

11 Lleinw'r cwmwl hefyd â gwlybaniaeth,a gwasgara'r cwmwl ei fellt.

12 Gwibiant yma ac acw ar ei orchymyn,i wneud y cyfan a ddywed wrthynt,dros wyneb daear gyfan.

13 “Gwna hyn naill ai fel cosb,neu er mwyn ei dir, neu mewn trugaredd.

14 “Gwrando ar hyn, Job;aros ac ystyria ryfeddodau Duw.

15 A wyt ti'n deall sut y mae Duw yn trefnu,ac yn gwneud i'r mellt fflachio yn ei gwmwl?

16 A wyt ti'n deall symudiadau'r cymylau,rhyfeddodau un perffaith ei wybodaeth?

17 Ti, sy'n chwysu yn dy ddilladpan fydd y ddaear yn swrth dan wynt y de,

18 a fedrit ti, fel ef, daenu'r wybren,sy'n galed fel drych o fetel tawdd?

19 Dywed wrthym beth i'w ddweud wrtho;oherwydd y tywyllwch ni allwn ni drefnu'n hachos.

20 A ellir dweud wrtho, ‘Yr wyf fi am lefaru’,neu fynegi iddo, ‘Y mae hwn am siarad’?

21 “Ond yn awr, ni all neb edrych ar y goleunipan yw'n ddisglair yn yr awyr,a'r gwynt wedi dod a'i chlirio.

22 Disgleiria o'r gogledd fel aur;o gwmpas Duw y mae ysblander ofnadwy.

23 Ni allwn ni ganfod yr Hollalluog,y mae'n fawr ei nerth;yn ei farn a'i gyfiawnder ni wna gam.

24 Am hyn, y mae pawb yn ei ofni,a phob un doeth yn edrych ato.”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40 41 42