Job 41 BCN

1 “A fedri di dynnu Lefiathanallan â bach,neu ddolennu rhaff am ei dafod?

2 A fedri di roi cortyn am ei drwyn,neu wthio bach i'w ên?

3 A wna ef ymbil yn daer arnat,neu siarad yn addfwyn â thi?

4 A wna gytundeb â thi,i'w gymryd yn was iti am byth?

5 A gei di chwarae ag ef fel ag aderyn,neu ei rwymo wrth dennyn i'th ferched?

6 A fydd masnachwyr yn bargeinio amdano,i'w rannu rhwng y gwerthwyr?

7 A osodi di bigau haearn yn ei groen,a bachau pysgota yn ei geg?

8 Os gosodi dy law arno,fe gofi am yr ysgarmes, ac ni wnei hyn eto.

9 Yn wir twyllodrus yw ei lonyddwch;onid yw ei olwg yn peri arswyd?

10 Nid oes neb yn ddigon eofn i'w gynhyrfu;a phwy a all sefyll o'i flaen?

11 Pwy a ddaw ag ef ataf, imi gael rhoi gwobr iddoo'r cyfan sydd gennyf dan y nef?

12 Ni pheidiaf â sôn am ei aelodau,ei gryfder a'i ffurf gytbwys.

13 Pwy a all agor ei wisg uchaf,neu drywanu ei groen dauddyblyg?

14 Pwy a all agor dorau ei geg,a'r dannedd o'i chwmpas yn codi arswyd?

15 Y mae ei gefn fel rhesi o darianauwedi eu cau'n dynn â sêl.

16 Y maent yn glòs wrth ei gilydd,heb fwlch o gwbl rhyngddynt.

17 Y mae'r naill yn cydio mor dynn wrth y llall,fel na ellir eu gwahanu.

18 Y mae ei disian yn gwasgaru mellt,a'i lygaid yn pefrio fel y wawr.

19 Daw fflachiadau allan o'i geg,a thasga gwreichion ohoni.

20 Daw mwg o'i ffroenau,fel o grochan yn berwi ar danllwyth.

21 Y mae ei anadl yn tanio cynnud,a daw fflam allan o'i geg.

22 Y mae cryfder yn ei wddf,ac arswyd yn rhedeg o'i flaen.

23 Y mae plygion ei gnawd yn glynu wrth ei gilydd,ac mor galed amdano fel na ellir eu symud.

24 Y mae ei galon yn gadarn fel craig,mor gadarn â maen melin.

25 Pan symuda, fe ofna'r cryfion;ânt o'u pwyll oherwydd sŵn y rhwygo.

26 Os ceisir ei drywanu â'r cleddyf, ni lwyddir,nac ychwaith â'r waywffon, dagr, na'r bicell.

27 Y mae'n trafod haearn fel gwellt,a phres fel pren wedi pydru.

28 Ni all saeth wneud iddo ffoi,ac y mae'n trafod cerrig tafl fel us.

29 Fel sofl yr ystyria'r pastwn,ac y mae'n chwerthin pan chwibana'r bicell.

30 Oddi tano y mae fel darnau miniog o lestri,a gwna rychau fel og ar y llaid.

31 Gwna i'r dyfnder ferwi fel crochan;gwna'r môr fel eli wedi ei gymysgu.

32 Gedy lwybr gwyn ar ei ôl,a gwna i'r dyfnder ymddangos yn benwyn.

33 Nid oes tebyg iddo ar y ddaear,creadur heb ofn dim arno.

34 Y mae'n edrych i lawr ar bopeth uchel;ef yw brenin yr holl anifeiliaid balch.”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40 41 42