1 Atebodd Job:
2 “Heddiw eto y mae fy nghwyn yn chwerw,a'i law sy'n drwm er gwaethaf f'ochenaid.
3 O na wyddwn ble y cawn ef,a pha fodd i ddod at ei drigfan!
4 Yna gosodwn fy achos o'i flaen,a llenwi fy ngenau â dadleuon.
5 Mynnwn wybod sut yr atebai fi,a deall beth a ddywedai wrthyf.
6 Ai gyda'i holl nerth y dadleuai â mi?Na, ond fe roddai sylw imi.
7 Sylwai mai un uniawn a ymresymai ag ef,a chawn fy rhyddhau am byth gan fy marnwr.
8 “Os af i'r dwyrain, nid yw ef yno;ac os i'r gorllewin, ni chanfyddaf ef.
9 Pan weithreda yn y gogledd, ni sylwaf;os try i'r de, nis gwelaf.
10 Ond y mae ef yn deall fy ffordd;wedi iddo fy mhrofi, dof allan fel aur.
11 Dilyn fy nhroed ei lwybr;cadwaf ei ffordd heb wyro.
12 Ni chiliaf oddi wrth orchmynion ei enau;cadwaf ei eiriau yn fy mynwes.
13 Erys ef yr un, a phwy a'i try?Fe wna beth bynnag a ddymuna.
14 Yn wir fe ddwg fy nedfryd i ben,fel llawer o rai eraill sydd ganddo.
15 Am hyn yr arswydaf rhagddo;pan ystyriaf, fe'i hofnaf.
16 Duw sy'n gwanychu fy nghalon;yr Hollalluog sy'n fy nychryn;
17 nid y tywyllwch sy'n cyfyngu arnaf,na'r fagddu'n fy nghuddio.”