Job 33 BCN

1 “Ond yn awr, Job, gwrando arnaf,a chlustfeinia ar fy ngeiriau i gyd.

2 Dyma fi'n agor fy ngwefusau,a'm tafod yn llefaru yn fy ngenau.

3 Y mae fy ngeiriau'n mynegi fy meddwl yn onest,a'm gwefusau wybodaeth yn ddiffuant.

4 Ysbryd Duw a'm lluniodd,ac anadl yr Hollalluog a'm ceidw'n fyw.

5 Ateb fi, os medri;trefna dy achos, a saf o'm blaen.

6 Ystyria, o flaen Duw yr wyf finnau yr un fath â thithau;o glai y'm lluniwyd innau hefyd.

7 Ni ddylai arswyd rhagof fi dy barlysu;ni fyddaf yn llawdrwm arnat.

8 “Yn wir, dywedaist yn fy nghlyw,a chlywais innau dy eiriau'n glir:

9 ‘Rwy'n lân, heb drosedd;rwy'n bur heb gamwedd.

10 Ond y mae Duw yn codi cwynion yn fy erbyn,ac yn f'ystyried yn elyn iddo,

11 yn gosod fy nhraed mewn cyffion,ac yn gwylio fy holl ffyrdd.’

12 “Nid wyt yn iawn yn hyn, a dyma f'ateb iti:Y mae Duw yn fwy na meidrolyn.

13 Pam yr wyt yn ymgecru ag ef,oherwydd nid oes ateb i'r un o'i eiriau?

14 Mae Duw yn llefaru unwaith ac eilwaith,ond nid oes neb yn cymryd sylw.

15 Mewn breuddwyd, mewn gweledigaeth nos,pan ddaw trymgwsg ar bobl,pan gysgant yn eu gwelyau,

16 yna fe wna iddynt wrando,a'u dychryn â rhybuddion,

17 i droi rhywun oddi wrth ei weithred,a chymryd ymaith ei falchder oddi wrtho,

18 a gwaredu ei einioes rhag y pwll,a'i fywyd rhag croesi afon angau.

19 “Fe'i disgyblir ar ei orweddâ chryndod di-baid yn ei esgyrn;

20 y mae bwyd yn ffiaidd ganddo,ac nid oes arno chwant am damaid blasus;

21 nycha'i gnawd o flaen fy llygad,a daw'r esgyrn, na welid gynt, i'r amlwg;

22 y mae ei einioes ar ymyl y pwll,a'i fywyd ger mangre'r meirw.

23 Os oes angel i sefyll drosto—un o blith mil i gyfrynguac i ddadlau ei hawl drosto,

24 a thrugarhau wrtho gan ddweud,‘Achub ef rhag mynd i'r pwll;y mae pris ei ryddid gennyf fi’—

25 yna bydd ei gnawd yn iachach nag erioed,wedi ei adfer fel yr oedd yn nyddiau ei ieuenctid.

26 Bydd yn gweddïo ar Dduw, ac yntau'n ei wrando;bydd yn edrych ar ei wyneb mewn llawenydd,gan ddweud wrth eraill am ei gyfiawnhad

27 a chanu yn eu gŵydd, a dweud,‘Pechais, gan droi oddi wrth uniondeb,ond ni chyfrifwyd hyn yn f'erbyn;

28 gwaredodd f'einioes rhag mynd i'r pwll,ac fe wêl fy mywyd oleuni.’

29 “Gwna Duw hyn i gyd i feidrolynddwywaith, ie deirgwaith;

30 fe adfer ei einioes o'r pwll,er mwyn iddo gael gweld goleuni bywyd.

31 Ystyria, Job, a gwrando arnaf;bydd dawel ac mi lefaraf.

32 Os oes gennyt ddadl, ateb fi;llefara, oherwydd fy nymuniad yw dy gyfiawnhau.

33 Ond os nad oes gennyt ddim i'w ddweud, gwrando arnaf;bydd dawel, a dysgaf ddoethineb i ti.”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40 41 42